CYFLWYNIAD
1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol y wlad. Mae awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol a’r tri gwasanaeth tân ac achub yn aelodau cyswllt.
2. Ei nod yw cynrychioli awdurdodau lleol yn ôl fframwaith polisïau sy’n cyd-fynd â’u blaenoriaethau. At hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at faes llywodraeth leol a’r cymunedau mae’n eu cynnal.
3.
Mae WLGA yn croesawu’r cyfle i gyflwyno sylwadau i
ymchwiliad Pwyllgor y Cynulliad dros yr Economi, yr Isadeiledd a
Medrau ynglŷn ag effeithiau tagfeydd ar ddiwydiant y bysiau
yng Nghymru. Cynigir sylwadau isod ar bob mater sydd o dan
sylw yn ystod yr ymchwiliad.
Sut mae tagfeydd yn effeithio ar sector bysiau Cymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol?
4.
Yn ôl mudiad Defnyddwyr Bysiau Cymru, mae dros 100
miliwn o deithiau gyda’r bws bob blwyddyn ac mae tua 80%
o’r holl deithiau trwy gludiant cyhoeddus yn ymwneud â
theithio gyda’r bws. Prif effaith tagfeydd ar sector y
bysiau yw bod teithiau’n hirach i bobl bellach.
Dyma’r effeithiau eilaidd:
· I ofalu y bydd gwasanaethau yr un mor aml, bydd angen rhagor o wasanaethau a bydd hynny’n cynyddu costau’r cwmnïau.
· Mae llai o sicrwydd o ran pryd y bydd bws yn cyrraedd.
· Bydd llai o bobl yn defnyddio’r bysiau o ganlyniad i deithiau hirach, prisiau uwch ac ansicrwydd ynglŷn â phryd y bydd bws yn dod.
· Yn sgîl llai o deithwyr, bydd llai o incwm i’r cwmnïau gan ychwanegu at bwysau i gwtogi ar wasanaethau.
5.
Er bod ar waith ffactorau eraill megis cymhorthdal gwladol
llai, mae’r canlyniadau’n amlwg. Mae ystadegau
Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y gwasanaethau bysiau
cofrestredig wedi gostwng o ryw 46% – 1,943 fis Mawrth 2005
o’u cymharu â 1,058 fis Mawrth 2015. Crebachodd
nifer y teithiau gyda’r bws o 19% rhwng 2008 a 2015 ac fe
gollwyd miliwn ychwanegol dros y flwyddyn ddaeth i ben fis Mawrth
2016.
6. Ar y llaw arall, mae nifer y rhai sy’n teithio gyda’r trên wedi bod yn cynyddu. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, dechreuodd neu orffennodd 30.31 miliwn o deithiau ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn 2015-16 – cynnydd o 3.36% ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 68% o’r teithiau o fewn ffiniau’r wlad. Er y gallai rhagor o deithio gyda’r trên helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd, mae’n bwysig cofio bod cyfanswm y teithwyr ar y rheilffyrdd yn llai na thraean o nifer y rhai sy’n teithio gyda’r bws. Felly, mae’r bws yn gludiant pwysig o hyd i lawer o bobl. Ar ben hynny, mae’n diwallu anghenion bröydd mwy anghysbell (yn arbennig y rhai gwledig) ac mae’n annhebygol y bydd ehangu yn rhwydwaith y rheilffyrdd o gymorth ynglŷn ag anghenion o’r fath.
7. Mae’r materion hyn yn debyg i anawsterau sawl rhan arall o’r Deyrnas Gyfunol. Mae daearyddiaeth rhai ardaloedd megis cymoedd y deheubarth yn bwysig, er nad yw’n unigryw.
8. I ofalu y bydd rhanbarthau Cymru yn gallu gweithio’n dda, mae’n bwysig mynd i’r afael â thagfeydd. Mae angen gwneud hynny mewn modd cydlynol a fydd yn nodi’r atebion gorau ar ôl ystyried pob math o gludiant.
9. Mae’r awdurdodau lleol ar flaen y gad ynglŷn â mentrau datblygu economïau amryw ranbarthau (bargeinion dinasoedd y de-ddwyrain a’r de-orllewin, cais am arian er twf yn y gogledd a Phartneriaeth Tyfu’r Canolbarth). Bydd gwell cludiant yn rhan bwysig o’r mentrau hynny. Heb wella pob math o gludiant, fydd y buddion economaidd i gyd ddim yn dod.
10. Prosiect Rheilffordd Metro’r De-ddwyrain sy’n tanategu cytundeb Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Hanfod y prosiect yw cyfuno gwell gwasanaethau bysiau a threnau ledled y rhanbarth. Ynglŷn â bysiau, rhaid gwella’r cerbydau a’r ffyrdd fel ei gilydd. Lle bo modd, er enghraifft, dylid cyflwyno lonydd bysiau a allai ddarbwyllo gyrwyr ceir sy’n treulio gormod o amser mewn tagfeydd i ystyried math arall o deithio.
11. Bydd gwell sector bysiau yn helpu i symud pobl ledled y pedwar rhanbarth – boed ar gyfer gwaith neu hamdden. Fyddan nhw ddim yn ystyried y bws yn gludiant amgen na’r car tra bo tagfeydd yn effeithio ar hyd y daith a gallu rhywun i gyrraedd pen ei daith mewn pryd.
Sut y dylid gwella polisïau i leddfu effeithiau tagfeydd ar sector y bysiau?
12. Dylai fod cyn lleied o dagfeydd ag y bo modd ar y priffyrdd i alluogi bysiau i deithio yn ôl amserlenni.
13. Mae rhai polisïau ar gael i Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yn barod i’w helpu i leddfu tagfeydd. Mewn sawl achos, fodd bynnag, byddai angen gwario llawer o arian ar isadeiledd y ffyrdd dros gyfnod maith. Yn y tymor byr, gallai gwaith gwella’r ffyrdd arwain at ragor o dagfeydd, a byddai angen cydweithio’n agos â chwmnïau bysiau er mwyn osgoi anghyfleustra.
14. Ystyriaeth bwysig arall yw bod angen cludiant llai ei garbon. Yn unol â Deddf y Newid Hinsoddol 2008 a Deddf yr Amgylchedd Cymru 2016, rhaid cwtogi ar allyriadau o 80% rhwng 1990 a 2050. Yn sgîl deddf Cymru, mae cyfres o gyllidebau carbon. Gan fod cludiant yn ymwneud â thua chwarter o allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae’n anochel y bydd angen camau penodol yn y maes hwnnw. Rhaid rhoi rhagor o sylw i sector y cludiant cyhoeddus yn hyn o beth, fel yr ymdrechion i gwtogi ar allyriadau ynglŷn â gwastraff ac adeiladau.
15.
Pan fo cerbyd yn ei unfan mewn tagfa, bydd yn gollwng rhagor o
nwyon gan effeithio ar iechyd a’r amgylchedd fel ei gilydd.
Gan fod bysiau’n defnyddio llai o danwydd yn ôl y
pen, byddai llai o lygredd pe bai rhagor o bobl yn eu defnyddio.
Felly, dylai fod yn amlwg y byddai polisïau sy’n
annog pobl i deithio gyda’r bws yn hanfodol wrth geisio
cwtogi ar garbon. Byddai llai o dagfeydd yn helpu’r
bysiau i fynd yn esmwyth a chadw trefn ar gostau. Yn
sgîl hynny, fe fyddai gwasanaethau mwy dibynadwy yn arwain at
ragor o deithwyr ac incwm. Mae’n amlwg y byddai
canlyniad o’r fath o fantais i bawb. Y casgliad yw y
bydd angen i bolisïau lleddfu tagfeydd ystyried ffyrdd o
flaenoriaethu a hyrwyddo bysiau yn ogystal â chludiant
cyhoeddus arall a theithio’n weithgar. Pe bai digon o
yrwyr yn teithio gyda’r bws yn hytrach na threulio oriau
lawer mewn tagfeydd, byddai ansawdd yr awyr yn well o
dipyn.
Ydy tagfeydd yn effeithio ar angen cymhorthdal gwladol ar wasanaethau bysiau?
16. Bydd eisiau arian gwladol i newid rhannau o rwydwaith y ffyrdd ar gyfer lonydd bysiau – a bydd angen rhagor o arian i ddarbwyllo pobl i roi’r gorau i’w ceir, hefyd.
17. Bydd yn bwysig ystyried effaith cymorth ariannol i’r bysiau ar gyfundrefn y cludiant, yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, hefyd. Er bod rhai gwasanaethau bysiau’n gweithredu yn ôl egwyddorion masnachol, mae modd cysylltu pob gwasanaeth trefnus (yn arbennig y rhai sy’n derbyn cymhorthdal) â ‘nwyddau cyhoeddus’. Ystyr hynny yw bod y cyfryw wasanaethau o les (heb elw) i bawb yn y gymdeithas. Enghreifftiau o’r ‘nwyddau cyhoeddus’ yw llai o dagfeydd (sydd o fantais i gwmnïau ac economi’r fro), llai o allyriadau (gan arwain at awyr lanach), teithio’n haws rhwng y gwaith a’r cartref, rhagor o gyfleoedd i gymdeithasu (yn arbennig i hen bobl a’r rhai isel eu hincwm sydd heb gar), mynediad i wasanaethau iechyd (gan rwystro cyflwr claf rhag gwaethygu a mynnu mwy o arian ac amser i’w wella) a helpu i gynnal cymunedau – yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig a’r Fro Gymraeg. Mae’n anodd pennu costau buddion o’r fath, ond dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu angen cymhorthdal gwladol ar y bysiau.
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Tim Peppin (Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaladwy) a Jane Lee (Swyddog Polisïau)
tim.peppin@wlga.gov.uk jane.lee@wlga.gov.uk
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd
CF10 4LG